Gofal Plant o Safon Uchel
Mae Meithrinfa Ddydd Little Deers (Busy B's gynt) yn darparu gofal plant o ansawdd uchel mewn amgylchedd diogel, meithringar ac ysgogol, gan roi blaenoriaeth i ddatblygiad, anghenion a hapusrwydd y plant a'u teuluoedd.
Cymerodd Abigail Calder yr awenau yn y feithrinfa ym mis Medi 2025, gyda bron i 20 mlynedd o brofiad mewn gofal plant a mam i 2 o blant. Agorwyd y feithrinfa (Busy B’s) gyntaf ym mis Gorffennaf 2007 gan Justine Burley.
Mae Little Deers wedi ei chofrestru efo’r AGC i ddarparu gofal ar gyfer 43 o blant rhwng 3 mis a deuddeg mlwydd oed.
Mae Little Deers yn amgylchedd perffaith i’ch rhai bach chi dyfu ynddo.
Cymwys
Mae ein staff yn dal cymwysterau gofal plant cydnabyddiedig, neu’n gweithio tuag atynt, dan arweiniad ein staff hŷn.
Datblygiad
Mae ein gorchwylion arferol i gyd wedi eu trefnu’n ofalus a’u strwythuro i weddu i oedran a cham datblygiad eich plentyn.
Hwyl
Rydym yn rhoi gwerth mawr ar yr egwyddor o ddysgu trwy chwarae.